Lesley Griffiths
Fe fydd adnoddau newydd i wella sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant ifanc yn cael eu lansio gan y Gweinidog Cymunedau Lesley Griffiths heddiw.

Y bwriad yw sicrhau bod y plant sy’n elwa ar raglen Dechrau’n Deg – ar gyfer plant yn yr ardaloedd fwyaf difreintiedig – yn cael y cymorth sydd ei angen ar gyfer datblygiad iaith cynnar gydag adnoddau dwyieithog.

Bydd rhieni a staff yn cael amrywiaeth o gynnyrch er mwyn hyrwyddo ffyrdd o annog datblygiad iaith cynnar megis canu i fabis, troi’r teledu i ffwrdd pan ydych yn siarad â babanod a phlant, siarad wrth chwarae ynghyd â phwysigrwydd darllen i blant.

Datblygiad

Bydd y Gweinidog yn ymweld â Dechrau’n Deg yn Nhrelái, Caerdydd heddiw i lansio’r canllawiau a’r adnoddau newydd.

“Mae’n fraint i weld â’m llygaid fy hun yr effaith bositif y mae ein rhaglen Dechrau’n Deg yn ei chael ar fywydau a theuluoedd ledled Cymru,” meddai Lesley Griffiths.

“Gwnaeth 31,000 o blant Cymru elwa ar y rhaglen y llynedd ac mae wir yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.

“Rydym yn gwybod bod sgiliau cyfathrebu gwael yn gallu effeithio’n  negyddol ar blant drwy gydol eu bywydau felly mae’n bwysig ein bod yn gosod y sylfaen cyn gynted ag y bo’n bosibl.

“Bydd yr adnoddau a’r canllawiau newydd rydw i’n lansio heddiw yn helpu staff a rhieni Dechrau’n Deg i roi’r cymorth sydd ei angen ar blant i gyrraedd eu potensial.”