Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Flaenau Ffestiniog yn oriau mân fore Llun yn dilyn tân mewn tŷ teras ar y stryd fawr.

Yn ôl gwasanaethau tân y gogledd, cafwyd galwad am 2.43 yn y bore, ble y cafodd dyn oedrannus ei achub o’r tân, a’i gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor yn dioddef o  effeithiau anadlu mwg.

Mae’r gwasanaethau tân yn credu bod y tân wedi dechrau’n ddamweiniol.