Meri Huws yw Comisiynydd y Gymraeg
Fe fydd y problemau sy’n bodoli wrth ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu trafod gan ddarlithwyr Cymraeg mewn cynhadledd yng Nghanada’r wythnos nesa’.

Mae’r daith yn cyd-fynd â Chynhadledd Language Rights and Challenges in an Era of Globalization lle fydd pob Comisiynydd Iaith yn y byd – gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws –  yn bresennol.

Bwriad y digwyddiad rhyngwladol yw dod ag ymchwilwyr Canada a Chymru ynghyd i rannu profiadau a thrafod gofal iechyd mewn cyd-destun dwyieithog a’r heriau a ddaw yn sgil hynny.

Byddan nhw’n edrych yn benodol ar bolisïau a fframwaith Canada a Chymru ac adnabod y bylchau sy’n bodoli yng ngwaith ymchwil y ddwy wlad er mwyn cytuno ar brosiectau ymchwil ar y cyd.

Effeithiol

Yn ystod yr ymweliad, bydd cyfle i ymweld ag ysbyty Montfort, Ottawa sy’n cynnig gwasanaeth gwbl ddwyieithog (Ffrangeg/Saesneg) i gleifion yn ogystal â sgwrsio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Ottawa.

Yn y pendraw, y gobaith yw y bydd hyn oll yn gwella’r gwasanaethau iaith a gynigir ym maes iechyd mewn cyd-destun dwyieithog a chreu rhagor o wasanaethau effeithiol.

‘‘Dw i’n mawr obeithio hefyd y cawn gyfle i rannu ffyrdd newydd o addysgu a chyflwyno’r rheiny i fyfyrwyr yma yng Nghymru,” meddai Ruth Wyn Williams sy’n ddarlithwraig dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor, ac a fydd yn teithio i Ganada.