Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Mae Llafur wedi colli rheolaeth o Gyngor Sir Caerfyrddin yn dilyn cyhoeddiad bod Plaid Cymru wedi dod i gytundeb gydag aelodau annibynnol a oedd wedi cyd-weithio gyda’r grŵp Llafur yn y gorffennol.
Roedd yr aelodau annibynnol wedi gwrthod gweithio gydag arweinydd newydd y grŵp Llafur Jeff Edmunds a oedd wedi olynu Kevin Madge, a gafodd ei ddisodli yn dilyn pleidlais gan y blaid ddydd Llun.
Roedd Kevin Madge wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo fel arweinydd y cyngor ddydd Mawrth.
Dyma’r tro cyntaf i Blaid Cymru, y blaid fwyaf yn y sir, gael rheolaeth o Gyngor Sir Gaerfyrddin.
Mae’n debyg bod yr aelodau annibynnol wedi trafod gyda Phlaid Cymru bore ddoe i drafod y cytundeb.
Fe fydd arweinydd grŵp Plaid Cymru, Emlyn Dole yn cael ei gynnig yn swyddogol fel arweinydd newydd y cyngor wythnos nesaf.
‘Cadarnhaol’
Dywedodd Emlyn Dole ar raglen Dylan Jones y bore ‘ma:
“Mae Plaid Cymru yn fodlon cyd-weithio hefo’r grŵp annibynnol cyn belled bod hynny ar ein termau ni.
“Beth drafodwyd ddoe yng nghyd-destun clymbleidio oedd mai rhywbeth cadarnhaol yw hyn a rhywbeth ‘dy ni wedi bod yn gweithio amdano ers tro byd.
“Mae gennym ni raglen waith a bwriad llawn i geisio gosod honno yn ei lle.”
Y Gyllideb
Wrth gael ei holi am y toriadau fydd yn wynebu’r cyngor dros y blynyddoedd nesaf, dywedodd Emlyn Dole:“Bydd rhaid i ni wynebu’r un anawsterau a phob cyngor sir…a byddwn ni’n edrych ar y gyllideb pan mae’n dod yn amser i wneud hynny.
“Mae’n rhaid iddi fod yn ariannol gyfrifol ac yn gweithio o fewn beth sydd ar gael – mi fyddwn ni’n gwneud ein gorau dros bobol Sir Gar. Rhan o hynny yw diogelu gwasanaethau Cyngor Sir Gar a dyna yw ein nod ni, hyd eithaf ein gallu.
“Dwi’n licio meddwl amdano [yr arweinyddiaeth] fel cyfle a braint, dwi ddim yn ei ystyried fel gambl – ac fel hyn fyddwn ni’n gweithio dros y ddwy flynedd nesa.”
Strategaeth Iaith
Wedi’r cyhoeddiad, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am gyfarfod gydag arweinydd newydd y Cyngor.
Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:
“Pan fydd yr arweinydd newydd wedi ei gadarnhau byddwn ni am gwrdd gydag e er mwyn sicrhau fod bwrw ymlaen i weithredu Strategaeth Iaith y cyngor yn ôl yr amserlen a gytunwyd llynedd, a bod cytundeb trawsbleidiol i hynny yn parhau.”