Y cynlluniau ar gyfer y parc gwyddoniaeth
Mae parc gwyddoniaeth newydd, all greu hyd at 720 o swyddi yng Ngaerwen ar Ynys Môn, wedi derbyn caniatâd cynllunio amlinellol gan gyngor yr ynys.

Yn ogystal â chreu cyflogaeth i bobol leol, nod y prosiect, a fydd yn derbyn cyllid o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yw creu safle i “annog diwydiant technoleg a phartneriaethau ymchwil gwyddonol yng ngogledd-orllewin Cymru”.

Pe bai’r caniatâd cynllunio llawn yn cael ei roi, byddai’r parc yn croesawu ei denantiaid cyntaf yn 2017 ond yn cymryd 10 mlynedd i’w gwblhau.

Cwmni dan adain Prifysgol Bangor sydd wedi cyflwyno’r cais ac maen nhw wedi dweud y byddai’n creu rhwng 150 a 720 o swyddi dros y 10 mlynedd nesaf.

‘Cam mawr ymlaen’

Dywedodd cyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai, Ieuan Wyn Jones: “Mae’r caniatâd cynllunio amlinellol yn gam mawr ymlaen i M-SParc ac mae’n nodi cychwyn pennod newydd gyffrous yn adfywiad economaidd Ynys Môn a gogledd-orllewin Cymru.

“Rydym yn gwybod yn ol tystiolaeth ryngwladol fod parciau gwyddoniaeth yn gweithio. Mae busnesau newydd wedi’u lleoli mewn parc gwyddoniaeth yn gallu disgwyl cyfradd lwyddo o 90% o gymharu â chyfradd lwyddo o 56% ar gyfer busnesau sy’n gweithredu y tu allan i amgylchedd parc gwyddoniaeth.”

‘Twf economaidd’

Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi gwyddoniaeth ac arloesedd fel gyrwyr pwysig ar gyfer creu twf economaidd a swyddi. Rydym yn croesawu penderfyniad yr awdurdod cynllunio i gefnogi’r cyfleuster newydd hwn a fydd, gobeithio, yn cyfrannu’n sylweddol at dwf yr economi lleol ac yn arwain at greu swyddi hyfedr.”

Ar ran Prifysgol Bangor, dywedodd yr Athro John G Hughes: “Mae’r penderfyniad cynllunio hwn yn newyddion gwych i Gymru gan y bydd M-SParc yn darparu canolfan unigryw ar gyfer masnacheiddio ymchwil gwyddonol arloesol a bydd yn gatalydd ar gyfer economi uwch-dechnoleg rhanbarthol gwirioneddol.”