Mae gweithwyr y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant wedi gorfod gadael yr adeilad yn dilyn tân yno’r bore ‘ma.
Cafodd y gwasanaethau tân eu galw tua 11:15yb ac roedd o leiaf pum criw o ddiffoddwyr yn taclo’r tân.
Dywedodd llefarydd o’r Bathdy nad oedd y tân yn peri risg i’r gweithwyr ond bod ffyrdd cyfagos wedi cael eu cau fel rhagofal.
Nid oes adroddiadau bod unrhyw un wedi’u hanafu.