Kevin Madge
Mae Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cyflwyno ei ymddiswyddiad yn ffurfiol “gyda thristwch mawr”.

Mewn cyfarfod yn Llanelli brynhawn ddoe, cafodd Kevin Madge ei ddisodli fel arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin gan ei gyd-gynghorwyr.

Penderfynwyd mai’r cynghorydd Jeff Edmunds fydd yn cymryd ei le fel arweinydd y grŵp Llafur, sy’n rheoli mewn clymblaid a chynghorwyr annibynnol.

Roedd Kevin Madge wedi bod yn arweinydd ers 2012.

Ym mis Mawrth 2014, fe wnaeth oroesi pleidlais o ddiffyg hyder gafodd ei chyflwyno yn dilyn anghydfod tros daliadau pensiwn anghyfreithlon i’r prif weithredwr Mark James.

‘Anrhydedd’

Mewn datganiad heddiw, diolchodd Kevin Madge i Mark James, y Prif Weithredwr, a phrif swyddogion y cyngor am y “gwaith gwych” maen nhw wedi ei wneud  o ran gwireddu gweledigaeth cynghorwyr ar gyfer y sir.

Dywedodd ei bod hi wedi bod yn “fraint ac yn anrhydedd” cael gwasanaethu fel Arweinydd dros y tair blynedd diwethaf a’i fod yn “falch o’r hyn yr oedd y weinyddiaeth wedi’i chyflawni.”

Diolchodd hefyd i’w wraig, Catrin, ac ychwanegodd ei fod yn bwriadu treulio rhagor o amser gyda’i deulu a’i wyres, ac yn edrych ymlaen at fod yno wrth iddi dyfu i fyny.

Er hynny, dywedodd y byddai’n parhau i fod yn gynghorydd sir dros Garnant a lleisiodd ei fwriad i sefyll eto fel cynghorydd yn 2017 “er mwyn parhau i wasanaethu’r gymuned rwyf yn ei charu.”