Y tim yn ail-greu arbrawf Marconi
Mae tîm o wyddonwyr a haneswyr wedi mynd ati i ail-greu arbrawf Marconi – lle cafodd y neges radio gyntaf ei hanfon dros y dŵr – fel rhan o gyfres newydd i S4C.

118 mlynedd ers i’r dyfeisiwr a pheiriannwr gwblhau’r arbrawf ar Ynys Echni ym Môr Hafren roedd tîm cyfres Dibendraw yn ôl ym mhen pellaf de Cymru i geisio ail-greu’r arbrawf sydd wedi “trawsnewid y byd”.

Bwriad y rhaglen, yn ôl y cynhyrchydd Elin Rhys, yw dangos y cysylltiad rhwng Cymru a datblygiad radio.

“Mae’r cysylltiad yn aruthrol a dw i ddim yn meddwl bod pobol yn sylwi beth yw ei wir faint,” meddai wrth golwg360.

“Eidalwr oedd Marconi ond Cymro o’r enw William Henry Preece o Gaernarfon, sef pennaeth y Swyddfa Bost ar y pryd, wnaeth ei ddenu i Gymru i wneud yr arbrawf.”

Tonnau radio

Dros y dyddiau diwetha’, bu’r Athro Iwan Morris o Brifysgol Aberystwyth, y gwyddonydd Daniel Roberts o Brifysgol Bangor ac Alun Guest Rowlands o Glwb Radio y Ddraig yn Llanfair PG yn ceisio ail-greu’r arbrawf – fel y gwnaeth Marconi a’i dîm yn yr hen ddyddiau.

“Mae’r hyn a wnaeth o wedi trawsnewid y byd ­- mae pawb yn defnyddio radio, ffonau symudol a dyfeisiau cyfathrebu eraill erbyn heddiw,” ychwanegodd Elin Rhys.

“Pan oedd Marconi a’i griw yn gwneud yr arbrawf doedd dim tonnau radio eraill, ond nawr yn yr unfed ganrif ar hugain roedd rhaid i ni fod yn hynod o ofalus nad oedden ni’n tarfu ar signal radio arall.”

Mae cyfres Dibendraw gan gwmni Telesgop yn dechrau ar S4C heno a bydd y rhaglen ar Marconi yn cael ei darlledu yn ddiweddarach yn y mis.