Mae ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw wedi dangos bod 1,378 o gartrefi wedi’u prynu drwy gynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru.

Mae’r ffigyrau yn cwmpasu cyfnod o Ionawr 2014 tan ddiwedd Mawrth 2015, ac yn dangos bod £48.7 miliwn wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru mewn benthyciadau ecwiti, gyda gwerth £245.7 miliwn o gartrefi wedi’u prynu.

Mae’r fenter gwerth £170 miliwn yn helpu prynwyr ac adeiladwyr i’w gwneud yn haws i bobl sydd wedi ei chael yn anodd dod o hyd i flaendal mawr brynu tai, gyda’r nod o roi hwb i’r diwydiant adeiladu.

Mae’r ystadegau’n dangos bod 74% o’r rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn brynwyr tro cyntaf, ac mae’r ffigurau hefyd yn dangos fod pris tŷ sy’n cael ei brynu trwy ddefnyddio’r cynllun Cymorth i Brynu – Cymru, ar gyfartaledd, yn £178,290.

‘Cartrefi fforddiadwy’

Mae’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, wedi croesawu’r newydd. Meddai: “Dro ar ôl tro, rwyf wedi cyfarfod pobl sydd wedi’i chael yn anodd trefnu blaendal mawr, ac wedi meddwl na fyddai’n bosib iddyn nhw brynu tŷ, cyn cael help y cynllun Cymorth i Brynu – Cymru.  Diolch i’r cynllun, mae’n bosib i bobl ledled Cymru bellach brynu cartrefi fforddiadwy, diogel o safon uchel.

“Yn ogystal â helpu pobl i brynu eu tŷ cyntaf, mae’r cynllun wedi bod yn newyddion gwych hefyd i’r diwydiant tai, gyda 174 o adeiladwyr o bob math ledled y wlad bellach yn cynnig benthyciadau rhannu ecwiti Cymorth i Brynu – Cymru ar eu tai.”

Ym mis Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fwriad i ymestyn y cynllun Cymorth i Brynu – Cymru y tu hwnt i 31 Mawrth 2016.