Kevin Madge
Mae Kevin Madge wedi cael ei ddisodli fel arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin gan ei gyd-gynghorwyr.

Mewn cyfarfod yn Llanelli brynhawn ddoe, penderfynwyd mai’r cynghorydd Jeff Edmunds fydd yn cymryd ei le fel arweinydd y grŵp Llafur, sy’n rheoli mewn clymblaid a chynghorwyr annibynnol.

Roedd Kevin Madge wedi bod yn arweinydd ers 2012.

Ym mis Mawrth 2014, fe wnaeth oroesi pleidlais o ddiffyg hyder gafodd ei chyflwyno yn dilyn anghydfod tros daliadau pensiwn anghyfreithlon i’r prif weithredwr Mark James.

Ond fe gyhoeddodd Heddlu Sir Gaerloyw yn ddiweddarach nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod troseddau wedi’u cyflawni.

Mae cyfarfod o’r cyngor llawn yn cael ei gynnal yfory am 10:00 y bore.