Clwb Pêl-droed Bangor yw’r maes chwaraeon cyntaf yng Ngwynedd i fod yn ‘Ddi-fwg’.

Nod y cynllun yw annog amgylchedd di-fwg i holl wylwyr Bangor yn ogystal â lleihau sbwriel sigaréts. Gobaith y cynllun hefyd yw sicrhau fod plant mewn amgylchedd di-fwg.

Bydd Clybiau Pêl-droed a Rygbi Porthmadog, Bethesda a Phwllheli yn dilyn Bangor i fabwysiadu statws ‘Di Fwg’.

Dywedodd y Cynghorydd Mair Rowlands, Aelod Cabinet Gwynedd Iach, Cyngor Gwynedd: “Mae ysgyfaint iach yn rhydd o fwg yn bwysig i unrhyw chwaraeon. Mae’n wych fod Bangor, Porthmadog, Bethesda a Phwllheli yn cefnogi’r cynllun.

“Rydym yn gobeithio cydweithio gyda meysydd chwaraeon eraill yng Ngwynedd yn y dyfodol i fod yn ‘Ddi Fwg’.”