Yr hysbyseb ar fws yng Nghaerdydd
Mae defnyddwyr gwefannau cymdeithasol wedi ymateb yn chwyrn i hysbyseb sydd wedi ymddangos ar gefn bws yng Nghaerdydd y bore ma.

Mae’r hysbyseb, sydd wedi ymddangos ar fws cwmni New Adventure Travel yn y brifddinas, yn dangos dynes hanner noeth yn dal arwydd gyda’r slogan: “Ride me all day for £3”.

Fe wnaeth New Adventure Travel bostio llun ohono ar Twitter a Facebook ond fe ddenodd yr hysbyseb feirniadaeth o fewn munudau.

Dywedodd Stephen Doughty, yr Aelod Seneddol Llafur dros dde Caerdydd a Phenarth, ei fod wedi siarad â rheolwr gyfarwyddwr New Adventure Travel i fynegi ei “ffieidd-dod” dros yr hysbyseb.

‘Atyniadol’

Dywedodd New Adventure Travel mewn datganiad eu bod nhw wedi ceisio gwneud y gwasanaeth yn fwy “atyniadol” i’r genhedlaeth iau a bod yr hysbysebion  yn cynnwys merched a dynion yn dal arwydd gyda’r slogan “tafod yn y boch”.

Er hynny, meddai’r datganiad fod y cwmni’n “ymddiheuro” os oedd yr hysbysebion wedi peri tramgwydd i unrhyw un.

Ychwanegodd y datganiad y bydd yr hysbysebion yn cael eu tynnu o gefn y bysus “o fewn y 24 awr nesaf.”

Dywed yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) eu bod nhw wedi derbyn 45 o gwynion a’u bod yn monitro’r sefyllfa.