Stephen Edwards
Fe fydd dau ddyn o ogledd Cymru yn rhedeg chwe marathon mewn chwe diwrnod er mwyn codi arian ar gyfer apêl ganser Awyr Las, sy’n cael ei arwain gan eu ffrind Irfon Williams.

Mae Alan Owen o Landegfan a Stephen Edwards o Lanberis – sy’n cyfaddef ei fod ychydig yn “wallgof” yn derbyn yr her – wedi penderfynu rhedeg Marathon Eryri bum gwaith cyn i filoedd o bobol ymuno â nhw ar gyfer y ras swyddogol ym mis Hydref.

Fe fyddan nhw’n rhedeg 157 o filltiroedd ar hyd llwybrau’r cwrs mynyddig, sy’n cael ei ystyried y marathon anoddaf ym Mhrydain.

Bydd yr arian sy’n cael ei godi yn mynd tua at ward ganser Ysbyty Gwynedd, Ward Alaw – lle bu Irfon Williams yn derbyn triniaeth wrth iddo frwydro â chanser y coluddyn a’r iau.

Ysbrydoliaeth

Cafodd y sialens ei lansio yng Nghlwb Rygbi Bangor ddoe.

“Dw i wedi colli ffrind agos i ganser ac rwy’n gwybod pa mor bwysig yw cefnogi’r gwasanaethau canser yn ein hysbytai,” meddai Stephen Edwards oedd yn arfer cyflwyno ar Radio Cymru dan yr enw ‘Y Weiran Gaws’.

“Dw i wedi cwblhau Marathon Eryri deirgwaith o’r blaen ond erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o’r blaen. Mae’n rhaid mod i’n wallgo’.

“Rydan ni gyd wedi cael ein hysbrydoli gan ddewrder Irfon a’i benderfyniad i gefnogi cleifion canser eraill.”