The Clash Llun: Chalkie Davies
Bydd arddangosfa unigryw sy’n canolbwyntio ar ffotograffau o rai o gerddorion chwedlonol y 1970au a’r 1980au, i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 9 Mai-6 Medi.

Mae arddangosfa ‘Chalkie Davies: Ei Stamp ar yr NME’ yn cynnwys lluniau’r ffotograffydd o Gymru, Chalkie Davies, fu’n gweithio i’r New Musical Express (NME) o 1975 i 1979.

Mae’r arddangosfa yn dathlu 40 mlynedd ers i Chalkie Davies gychwyn gweithio i’r NME ac yn cyd-fynd â’i ben-blwydd yn 60, yn cynnwys casgliad o 64 delwedd ddu a gwyn – nifer ohonynt erioed wedi’u gweld – o rai o fandiau ac artistiaid mawr y cyfnod gan gynnwys The Clash, The Specials, Sex Pistols, Elvis Costello, David Bowie, Thin Lizzy a The Who.

Newid ffocws

Ganwyd Chalkie Davies ym 1955 ac fe’i magwyd yn y Sili ym Mro Morgannwg. Aeth i fyw i Lundain pan oedd yn 16 mlwydd oed a thra roedd yno darganfu ei gariad at ffotograffiaeth. Erbyn 1975, roedd wedi’i gyflogi’n ffotograffydd staff llawn-amser i’r NME.

Wedi gadael yr NME ym 1979, aeth i weithio i gylchgrawn cerddorol newydd o’r enw The Face, tra’n cynhyrchu cloriau recordiau i The Specials, The Pretenders ac Elvis Costello.

Erbyn canol y 1980au, teimlai Chalkie Davies ei fod angen newid ei ffocws, a symudodd i’r Unol Daleithiau  i gychwyn gyrfa newydd fel ffotograffydd bywyd llonydd.

Cyn gadael y DU, rhoddodd ei holl waith gyda’r NME a The Face dan glo, a’i adael yno am 25 mlynedd, gan feddwl y byddai’n ddiddorol ailasesu ei werth diwylliannol flynyddoedd yn ddiweddarach.

Mae Chalkie Davies wedi treulio’r bum mlynedd ddiwethaf yn catalogio ei archif ac yn dewis, adfer ac argraffu’r gweithiau fydd i’w gweld yn yr arddangosfa hon.

‘Anrhydedd’

Dywedodd Chalkie Davies: “Cerddoriaeth ac electroneg oedd yn fy niddori wrth i mi dyfu i fyny yn ne Cymru. Fy mreuddwyd oedd gweithio i fand, er nad oedd gen i unrhyw awydd i fod mewn grŵp fy hun. Roeddwn hefyd yn benthyg camera fy nhad, a byddwn yn mynd i Iard Sgrap y Barri i dynnu lluniau’r trenau stêm oedd wedi cael eu hanfon yno i farw.

“Mae’n anrhydedd anferth fod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnal yr arddangosfa hon. Mae’r lluniau yn dod â’m gwaith yn ystod cyfnod arbennig ym myd cerddoriaeth ynghyd. Mae’n gymysgedd o waith ar gyfer yr NME a chasgliad o bortreadau stiwdio sydd heb eu gweld o bobl fel Suggs, Ian Dury, Joe Strummer, Chrissie Hynde, a Paul Weller.”

‘Eiconig’

Ychwanegodd: “O ran ffotograffiaeth, rwyf wedi byw bywyd breintiedig, ond enciliol. Wrth i fy mhen-blwydd yn 60 nesáu, rwy’n credu ei bod yn amser i adrodd fy stori – sut gall plentyn o’r Sili fynd i Lundain ar ei ben ei hun, cael y swydd berffaith, a mynd ymlaen i weithio gyda rhai o’i arwyr a helpu i’w siapio nhw’n weledol a chreu’r delweddau fyddai’n aros yng nghof eu ffans.

“Dyna’r allwedd – rhaid i’r delweddau fod yn eiconig, rhaid iddynt ddiffinio’r artist. Os oedd plant yn gosod y lluniau ar waliau eu hystafell wely, dyna brawf fy mod yn gwneud fy ngwaith yn iawn.

“Ond un peth oedd yn gyrru’r cwbl; y lluniau oedd yn bwysig, nid y boi oedd yn eu tynnu…”

‘Un o arwyr NME’

Dywedodd Mike Williams, golygydd presennol NME, sy’n dod o Wrecsam:  “Rydym yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â’r arddangosfa hon, sy’n canolbwyntio ar waith un o arwyr yr NME.

“Mae Chalkie Davies yn gyfrifol am rai o’r ffotograffau mwyaf eiconig yn hanes y cylchgrawn, ac mae hyn yn ddilyniant teilwng i’w Wobr Cyfraniad Eithriadol yng Ngwobrau Ffotograffiaeth Gerddorol yr NME yn 2014.

“Rydym yn hynod o falch fod ei gasgliad yn cael ei ddangos yn yr arddangosfa newydd a chyffrous hon yn Amgueddfa Cymru.”