Y difrod wedi'r daeargryn yn Nepal
Fe fydd dringwr sydd wedi cyrraedd copa mynydd mwyaf y byd, Everest, yn adrodd hanes ei daith mewn noson ger pentref Y Felinheli i godi arian ar gyfer Apêl Daeargryn Nepal.

Bu Simon Hall, pennaeth Canolfan Gwasanaethau Hyfforddiant Mynydd, yn arwain tîm o wyth o ddringwyr i gopa Everest yn 2007.

“Bydd y rhai sy’n gyfarwydd â mynyddoedd yr Himalaya yn gwerthfawrogi fod cefnogaeth y Sherpas a phobol Nepal yn hanfodol i’r mwyafrif o deithiau,” meddai Simon Hall.

“Mae’r gymuned yma wedi dioddef daeargryn ofnadwy gyda chanlyniadau dynol trychinebus. Rydym yn gobeithio codi arian i Apêl Daeargryn Nepal y Groes Goch drwy rannu fy mhrofiadau ar Fynydd Everest gydag unrhyw un sy’n dymuno ymuno a ni nos Wener,” meddai.

‘Trychineb echrydus’

Mae’r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Gynghorydd Sir Y Felinheli, y Cynghorydd Sian Gwenllian, sydd yn helpu hyrwyddo’r digwyddiad:

“Mae pawb wedi cael eu cyffwrdd gan y trychineb erchyll sydd wedi taro cymunedau’r ardal effeithiwyd gan y ddaeargryn,” meddai.

“Mae wedi ein cyffwrdd ni yn bersonol fel teulu.  Dim ond 4 wythnos yn ôl bu fy mab a’i gariad ar daith i Basecamp Everest gan godi £9,000 i Ymchwil Canser Cymru. Wrth eu croesawu adref, doedd gennym ni ddim syniad fod y trychineb echrydus yma ar fin digwydd gan achosi cymaint o ddioddefaint.”

Mae o leiaf 7,300 o bobol wedi marw yn dilyn y daeargryn nerthol.

Cynhelir y noson ym Mhlas Menai am 7:00 nos Wener ac fe fydd cynrychiolwyr o’r Groes Goch yno i drafod eu hymdrechion i roi cymorth yn y wlad. Ni fydd  cost mynediad ond fe wahoddir cyfraniadau.