Bydd dros ugain o bobl yn cychwyn ymprydio y prynhawn yma er mwyn tynnu sylw at yr angen i wella’r Bil Cynllunio er lles y Gymraeg cyn pleidlais yn y Cynulliad yfory.

Ymysg y bobl a fydd yn ymprydio am dros 24 awr, mae’r Prifardd Mererid Hopwood o Langynnwr, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan o Ferthyr Tudful, Toni Schiavone o Bandy Tudur, y Gweinidog Cen Llwyd o Dalgarreg a’r cerddor Cleif Harpwood o Gwmafan.

Mae disgwyl y bydd y Llywodraeth yn derbyn gwelliant i’r Bil a fydd yn golygu bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol yn y gyfundrefn, gan adael i gynghorwyr ganiatáu neu wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith iaith.

Dadl caredigion yr iaith, fodd bynnag, yw bod asesiadau effaith iaith ar ddatblygiadau unigol yn hanfodol er mwyn i system o’r fath weithio’n iawn – rhwng 2010 a 2012 dim ond 16 asesiad effaith iaith gafodd eu cynnal allan o gyfanswm o bron i 50,000 o geisiadau cynllunio.

Mae’r ymgyrchwyr hefyd yn dweud bod rhaid newid y ffordd mae targedau tai yn cael eu gosod fel eu bod yn adlewyrchu anghenion lleol. Mae hyn yn dilyn ffraeo chwerw ynghylch  niferoedd tai, yn enwedig mewn ardaloedd fel Wrecsam, Gwynedd a Chaerdydd, dros y misoedd diwethaf.

‘Gofynion datblygwyr mawr’

“Mae’r Mesur Cynllunio yn ateb gofynion datblygwyr mawrion ac nid anghenion y Gymraeg mewn cymunedau lleol,” meddai un o’r ymprydwyr, Mererid Hopwood.

“Dw i’n gwrthwynebu’r ffordd y bydd y bleidlais yfory’n rhoi rhwydd hynt i gyflymu a chanoli’r broses. Bydd grym yn cael ei roi yn nwylo llai o bobl drwy sefydlu paneli rhanbarthol gyda nifer o’u haelodau yn rhai anetholedig.

“Mae dal angen i’r Mesur gynnwys gorfodaeth i gynnal asesiadau iaith ar ddatblygiadau sylweddol a rhoi’r angen i awdurdodau lleol osod targedau tai yn unol ag anghenion lleol yn hytrach na gorfod derbyn amcan ffigyrau canolog.”

Bwriad rhai o’r ymprydwyr  yw mynd i’r Senedd brynhawn yfory i wylio Aelodau Cynulliad yn trafod y mesur a phleidleisio arno.

  • Rhagor am y bil cynllunio mewn blog gan Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan: ‘Dŵr coch Cymru’n dechreu encilio?’