Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi’r polisi olaf y bydden nhw’n galw am ei weithredu pe baen nhw’n ffurfio clymblaid yn dilyn yr etholiad cyffredinol.

Mae ymgeisydd y blaid ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, Roger Williams wedi dweud na ddylai gweithwyr yn y sector cyhoeddus wynebu rhagor o doriadau, a’i bod hi’n bryd cynnig ychydig o obaith i weithwyr.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu cyflwyno cynnydd yn yr isafswm cyflog yn unol â chwyddiant am y ddwy flynedd nesaf, a sicrhau cynnydd cyflog yn nhermau real wrth sefydlogi’r economi.

Mae’r polisi’n golygu y byddai nyrs ar gyflog o £25,000 yn derbyn o leiaf £350 ychwanegol.

Byddai plismon ar £30,000 yn derbyn £490 ychwanegol yn ôl y polisi, a byddai athro ar £35,000 yn derbyn £490 ychwanegol.

Mewn datganiad, dywedodd ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, Roger Williams: “Mae hwn yn ymrwymiad mawr er budd miloedd o bobol yng Nghymru.

“Ni fydd unrhyw blaid yn ennill mwyafrif yn yr etholiad hwn ac mae’n hanfodol fod pleidiau’n agored ac yn onest am yr hyn y bydden nhw’n ei wneud mewn clymblaid.

“Ni fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd i mewn i glymblaid gyda phlaid nad yw’n fodlon cefnogi cynnydd yng nghyflogau pobol sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus.

“Mae gweithwyr yn y sector cyhoeddus wedi gwneud digon o aberth er mwyn helpu ein gwlad yn ôl ar ei thraed.”

Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg mai gweithwyr yn y sector cyhoeddus yw “conglfaen cymdeithas deg”.