Gruff Rhys
Mae llyfr Gruff Rhys am ei brosiect American Interior wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015.
Ac mae’r darlithydd Llŷr Gwyn Lewis wedi cyrraedd rhestrau byrion ar gyfer Barddoniaeth a’r categori Ffeithiol Greadigol.
Ac unwaith eto eleni, bydd cyfle i chi ddewis eich hoff gyfrol Gymraeg drwy bleidleisio ar golwg360.
Mae naw llyfr Cymraeg a naw llyfr Saesneg wedi cyrraedd y gwahanol restrau byrion – tri llyfr ffuglen, tair cyfrol o farddoniaeth a thri llyfr ffeithiol-greadigol.
Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar nos Iau 4 Mehefin yn Galeri, Caernarfon.
Roedd y prosiect American Interior gan Gruff Rhys yn ffilm, albwm ac ap, yn ogystal â llyfr yn adrodd hanes y canwr wrth iddo ddilyn ôl troed perthynas pell, yr anturiaethwr John Evans, i grombil America ar drywydd llwyth brodorol o ddisgynyddion y Tywysog Madog.
Cyflwynwyd bron i hanner cant o lyfrau Cymraeg cymwys i’r beirniaid, a dyma’r naw sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2015:
Barddoniaeth:
Un Stribedyn Bach, Rhys Iorwerth
Storm ar Wyneb yr Haul, Llŷr Gwyn Lewis
Wilia, Meic Stephens
Ffuglen:
Awst yn Anogia, Gareth F. Williams
Saith Oes Efa, Lleucu Roberts
Y Fro Dywyll, Jerry Hunter
Ffeithiol Greadigol:
Rhyw Flodau Rhyfel, Llŷr Gwyn Lewis
100 o Olygfeydd Hynod Cymru, Dyfed Elis-Gruffydd
Mwy na Bardd, Kate Crockett
Beirniaid y llyfrau Cymraeg eleni yw’r awdur Annes Glynn, y bardd a darlithydd Hywel Griffiths a’r DJ, awdur a pherfformiwr Gareth Potter.
Saesneg
Beirniaid y llyfrau Saesneg eleni yw’r newyddiadurwr a beirniad llenyddol Alex Clark, yr awdur Tessa Hadley a’r bardd Paul Henry. Dyma’r teitlau sydd wedi cyrraedd y Rhestr Fer Saesneg:
Rhestr Fer Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias:
Telling Tales, Patience Agbabi
So Many Moving Parts, Tiffany Atkinson
My Family and Other Superheroes, Jonathan Edwards
Rhestr Fer Ffuglen:
The Redemption of Galen Pike, Carys Davies
The Dig, Cynan Jones
Burrard Inlet, Tyler Keevil
Rhestr Fer Ffeithiol Greadigol:
Down to the Sea in Ships, Horatio Clare
Other People’s Countries, Patrick McGuinness
American Interior, Gruff Rhys
Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £2,000, ac fe gyflwynir gwobr ychwanegol o £6,000 i enillydd y brif wobr yn y ddwy iaith.
Yn y seremoni wobrwyo hefyd, bydd Gwobr Barn y Bobl yn cael ei chyflwyno i hoff lyfr darllenwyr Cymru o’r Rhestr Fer.
Fe allwch chi nawr ddewis eich ffefryn yng nghategori’r llyfrau Cymraeg drwy bleidleisio ym mhôl piniwn Barn y Bobl yma’n arbennig ar golwg360: