Carwyn Scott-Howell (Llun:PA)
Mae angladd bachgen saith oed o Bowys a fu farw ar wyliau sgïo yn Ffrainc yn cael ei gynnal yn Eglwys Santes Fair, Y Fenni, heddiw.

Clywodd cwest yr wythnos ddiwetha’ fod Carwyn Rhys Scott-Howell o bentre’ Talybont-ar-Wysg wedi cwympo tos glogwyn uchel yn  ardal Flaine, yn yr Alpau Ffrengig ar 11 Ebrill.

Yn gynharach, fe gyhoeddwyd bod ymchwiliad wedi penderfynu nad oedd Carwyn Scott-Howell wedi marw o ganlyniad i esgeulustod.

‘Damwain drasig’ oedd ei farwolaeth yn ôl yr erlynydd yn Ffrainc lle mae’r awdurdodau’n cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad.