Colin Capp (Llun Heddlu De Cymru)
Fe fydd carcharor yn cael ei ddedfrydu heddiw am lofruddio’r dyn oedd yn rhannu ei gell, a hynny gyda beiro.

Roedd Colin Capp, 23, o’r Alban, wedi lladd Darren Thomas, 45, pan oedd yn cysgu yng ngharchar Caerdydd ac fe benderfynodd rheithgor ddoe ei fod yn euog o lofruddio.

Trwy gydol yr achos roedd Colin Capp yn cyfaddef ei fod wedi lladd Darren Thomas ond roedd yn gwadu ei lofruddio, gan ddweud ei fod wedi clywed lleisiau yn ei ben yn ei annog i’w ladd.

Dim edifeirwch

Wrth siarad ar ôl y dyfarniad, dywedodd teulu Darren Thomas: “Rydym wedi bod yn ceisio dod i delerau gyda marwolaeth Darren tros y 13 mis diwetha’. Ar adeg ei farwolaeth, roedd o mewn sefydliad lle dylai fod wedi teimlo’n ddiogel.

“Roddodd Colin Capp ddim rheswm dros ei weithred na dangos unrhyw  edifeirwch.

“Mae’r dyfarniad yn rhywfaint o gysur i ni ac fe fydd y ddedfryd sy’n cael ei rhoi yn rhoi amser iddo ystyried canlyniadau ei weithredoedd, gan ei atal rhag gwneud yn un peth i rywun arall.”