Carchar Caerdydd
Roedd carcharor wnaeth drywanu dyn, oedd yn rhannu ei gell, i farwolaeth gyda beiro yn dioddef o sgitsoffrenia ar y pryd, clywodd Llys y Goron Caerdydd.
Mae Colin Capp, 23, o’r Alban yn cael ei gyhuddo o lofruddio Darren Thomas, 45, tra roedd o’n cysgu yng ngharchar Caerdydd.
Mae’n cyfaddef ei fod wedi ei ladd ond yn gwadu ei lofruddio.
Dywedodd seiciatrydd wrth y llys bod iechyd meddwl Colin Capp wedi effeithio ar ei weithredoedd.
Mae’r achos yn parhau.