Safle glo brig East Pit
Mae tua 60 o weithwyr o safle glo brig East Pit yng Nghwm Aman yn galw ar Gyngor Castell Nedd Port Talbot i ddiogelu eu swyddi, wrth i’r pwyllgor cynllunio drafod cais i adeiladu parc gwledig ar y safle.

Byddai’r cynlluniau yn gweld gwesty gydag 120 o stafelloedd, 78 o gabanau gwyliau, llyn, maes gwersylla, canolfan ddeifio a siop yn cael eu hadeiladu ar safle East Pit.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen rhagor o amser i benderfynu os ddylai’r cais gael ei ystyried gan Weinidogion Cymru. Oherwydd hynny, ni all y cyngor gymeradwyo’r cynlluniau heddiw, ond fe allen nhw eu gwrthod.

Mae cwmni glo Celtic Energy wedi dweud bod angen penderfyniad yn fuan gan fod  70 o swyddi yn y fantol petai’r cynlluniau unai’n cael eu gwrthod neu eu galw mewn.

Byddai’r safle yn parhau i gynhyrchu glo am dair blynedd arall petai’r cynlluniau yn cael eu cymeradwyo.

‘Caledi aruthrol’

Mae Undeb Unite wedi dweud os nad yw’r cais presennol yn cael ei gymeradwyo, yna bydd y rhan fwyaf o’r 90 o bobl sy’n cael eu cyflogi yn y safle glo brig yn wynebu cael eu diswyddo o fewn mater o wythnosau.

Meddai’r undeb y byddai hynny yn “creu caledi aruthrol” i’r gweithwyr a’u teuluoedd ar amser pan dyw cyflogaeth arall yn yr ardal ddim yn bodoli ar yr un raddfa neu ar yr un cyfraddau tâl.

‘Effaith ar dai cyfagos’

Mae’r cais gan gwmni The Lakes at Rhosamman Ltd yn cynnwys 1,445 acer o dir ger Gwaun Cae Gurwen.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd y penderfyniad ynghylch a ddylai’r cais gael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Mae gwrthwynebwyr yn dweud y bydd effaith andwyol ar dai cyfagos os yw’r cloddio’n parhau, bod awydd lleol i’r tir gael ei ddychwelyd i’w gyflwr gwreiddiol, a bod safle’r lleoliad ar y ffin â pharc cenedlaethol yn lleoliad amhriodol ar gyfer parc gwyliau.

Ond mae cefnogwyr yn honni y gallai gweld y cloddio am lo yn parhau arbed 120 o swyddi ar y safle, yn ogystal â chyflenwi gwaith i gontractwyr lleol a’r 96 o gwmnïau sy’n cyflenwi East Pit.