Diarmait Mac Giolla Chriost
Mae angen ailystyried rôl Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl ymchwil gan academydd blaenllaw.

Dylai bwrdd o bobol fod yn craffu ar y gwasanaethau a’r hawliau sy’n cael eu darparu i Gymry Cymraeg, yn hytrach na’r sefyllfa bresennol ble mae un person yn rôl reoleiddiol Comisiynydd y Gymraeg, meddai.

Dyna gasgliad yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost o Brifysgol Caerdydd, sydd wedi cynnal seminar gyhoeddus yr wythnos hon yn trafod ‘Comisiynydd y Gymraeg: rheoleiddio, rhyddid a risg’.

Ers tair blynedd mae’r Gwyddel wedi bod yn arwain prosiect ymchwil yn edrych mewn manylder ar Gomisiynwyr Iaith Iwerddon, Canada a Chymru.

Yn ôl “canlyniadau gwaith ymchwil neilltuol sydd wedi codi yng Nghymru”, cam gwag yw dibynnu ar un person – Comisiynydd y Gymraeg – i fod yn gyfrifol am reoleiddio.

‘Rheoleiddio’, yng nghyswllt gwaith y Comisiynydd, yw monitro sut mae cyrff cyhoeddus yn cadw at reolau a chyfreithiau yn ymwneud â hawliau siaradwyr Cymraeg.

Ond mae’r “model yn anghywir ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg”, yn ôl Diarmait Mac Giolla Chriost.

“Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gorfforaeth unigol, corporate soul – mae hynny’n meddwl, ar ddiwedd y dydd, mai’r Comisiynydd ei hun sydd yn cymryd pob penderfyniad.

“Mae hynny yn meddwl nad oes checks a balances ynghlwm â swyddfa’r Comisiynydd.

“Mae popeth yn dibynnu ar bersonoliaeth, ar judgement y Comisiynydd fel unigolyn.

“Mae ein hymchwil ni yn dangos fod hynny yn gamgymeriad ar gyfer rheoleiddiwr.

“Fe ddylai swyddfa’r Comisiynydd fod yn gorfforaeth gyfansawdd, corporate aggregate, lle mae sawl un person yn rhan o’r broses o gymryd penderfyniadau.

“Mae rheoleiddwyr, bron a bod yn ddieithriad, yn gorfforaethau cyfansawdd.”

Pencampwr Iaith?

Er bod Comisiynydd y Gymraeg i fod i hybu’r defnydd o’r iaith, ac yn cael ei hystyried yn ‘bencampwr iaith’, mae Diarmait Mac Giolla Chriost yn bendant bod angen iddi ganolbwyntio ar un peth – rheoleiddio.

“Mae angen diffinio yn gliriach beth yw pwrpas swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a sut mae i fod i weithio… mae yna le iddo fod yn gliriach,” meddai.

“Mae yna wahanol swyddogaethau a disgwyliadau ynglŷn â’r swyddfa, ac mae’n edrych fel bod rhai o’r rheiny, ar adegau, yn wynebu i wahanol gyfeiriadau…

“Y man cychwyn yw i gael hunaniaeth y swydd yn gliriach”, fel bod “pobol yn deall yn well taw rheoleiddiwr yw’r swyddfa” sy’n “gwneud gwaith pwysig ar ran Llywodraeth Cymru”.

Mwy gan yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.