Ysbyty Treforys
Mae merch dair oed yn yr ysbyty ar ôl cael ei brathu gan gi’r teulu yn Sir Benfro, yn ôl Heddlu Dyfed Powys.

Cafodd swyddogion eu galw i dŷ yn Neyland, Aberdaugleddau am 2:45 brynhawn ddoe.

Dywedodd llefarydd yr heddlu bod y ferch wedi cael ei chludo i Ysbyty Treforys, Abertawe mewn ambiwlans awyr ond nad yw mewn cyflwr sy’n fygythiad i’w bywyd.

Mae’r ci wedi cael ei ddifa gyda chaniatâd y teulu.