Carwyn Jones - yn mynd i'r dadorchuddio
Fe fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn rhan o seremoni sy’n cael ei chynnal heddiw i gofio’r milwyr o Gymru a fu farw yn Gallipoli, Twrci, ganrif yn ôl.

Fe fydd cerflun pres o filwr o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei ddadorchuddio ar Sgwâr Trafalgar yn Llundain, cyn  mynd ar daith bedair blynedd o amgylch gwledydd Prydain.

Fe fydd y cerflun 7.5 metr wedyn yn symud i Gaerdydd ac yn cael ei arddangos yno tan 5 Mai.

Partneriaeth

Fel rhan o raglen Cymru’n Cofio 1914-18, mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, swyddfa Arglwydd Faer Caerdydd ac Amgueddfa’r Firing Line i nodi canmlwyddiant ymgyrch Gallipoli.

“Mae’r cerflun gwych hwn yn enghraifft arbennig o rôl hanfodol y Lleng Brydeinig Frenhinol yn sicrhau bod milwyr y gorffennol a’r presennol yn cael eu cofio a’u cefnogi,” meddai Carwyn Jones.

Fe gafodd mwy na 100,000 o filwyr o’r ddwy ochr eu lladd yn yr ymgyrch pan enillodd byddin yr Ymerodraeth Ottoman.

Yn ôl rhai, fe gyfrannodd y fuddugoliaeth at greu gwladwriaeth fodern Twrci, ond dyma’r diwrnod pwysica’ i gofio’r Rhyfel Mawr yn Awstralia a Seland Newydd a gollodd filoedd o ddynion.