Mae nifer o ymgyrchwyr  dros yr iaith Gymraeg yn ystyried cynnal ympryd mewn ymdrech i gryfhau lle’r Gymraeg mewn deddfwriaeth gynllunio.

Cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith bod nifer o’u haelodau yn ystyried dechrau ymprydio cyn i’r Cynlluniad gynnal pleidlais ar y Mesur Cynllunio ar 5 Mai.

Mae Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad eisoes wedi galw ar Weinidog Cynllunio Llywodraeth Cymru Carl Sargeant i wneud nifer o newidiadau – gan gynnwys gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol a sefydlu cyfundrefn i sicrhau bod asesiadau o effaith ceisiadau cynllunio ar y Gymraeg yn cael eu hystyried.

‘Adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa’

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Jamie Bevan, un o’r rhai sy’n ystyried  ymprydio:

“Mae goblygiadau’r Mesur hwn i’r Gymraeg yn ddifrifol, ac mae’r syniad o drefnu ympryd yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa.

“Rhaid i ni gael fframwaith statudol sy’n creu ac yn gwarchod cymunedau Cymraeg a hynny ym mhob rhan o’r wlad, nid rhai rhannau’n unig.

“Y Gymraeg oedd yr iaith gymunedol ym Merthyr lle cefais fy magu ac yn lle rwy’n byw heddiw. Rwy’n credu’n gryf bod rhaid i’r Mesur Cynllunio gyfrannu at adfer y Gymraeg yn fy ardal i, yn ogystal ag ym mhob un gymuned yn ein gwlad, yn arbennig mewn cymunedau gwledig sydd wedi gweld dirywiad difrifol yn nifer siaradwyr y Gymraeg dros yr ugain mlynedd diwethaf.”

Ychwanegodd Jamie Bevan: “Ofer yw dynwared system sy’n bodoli yn Lloegr, gallai e fod yr hoelen olaf yn arch ein cymunedau Cymraeg fel arall.”