Fe all Cymru ddod y wlad gyntaf yn y byd i atal unrhyw gloddio am danwydd ffosil, petai’r Cynulliad yn pleidleisio o blaid moratoriwm ar gloddio am lo brig heddiw.

Mae Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru Gareth Clubb wedi dweud bod y bleidlais “o bwys rhyngwladol enfawr” ac am effeithio ar y cenedlaethau i ddod.

Ym mis Chwefror eleni, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi moratoriwm ar ffracio.

Heddiw, fe fydd cynnig trawsbleidiol gan Bethan Jenkins o Blaid Cymru, William Graham o’r Ceidwadwyr, Lynne Neagle o Lafur a William Powell o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael ei drafod yn y Cynulliad sy’n galw am ohirio cyfraith ar gloddio am lo brig.

“Gyda’r moratoriwm presennol ar ffracio a marwolaeth y diwydiant cloddio glo, mae’n golygu bod gan Gymru gyfle i agor pennod newydd yn ei hanes.

“Mae’n golygu y gall Cymru fod y wlad gyntaf yn y byd sydd â chronfa sylweddol o danwydd ffosil i beidio eu defnyddio,” meddai Gareth Clubb mewn blog ar clickonwales.

Difrod

Dywedodd Gareth Clubb bod tanwydd ffosil yn achosi “difrod difesur” i ddynoliaeth ac i holl fywyd ar y ddaear:

“Mae’n achosi llygredd dwr ac awyr wrth i sylffwr a’r cemegau mwyaf gwenwynig gael eu gollwng i’r aer. Mae hefyd yn achosi problemau iechyd a marwolaethau cynnar.

“Dyma pam fod y penderfyniad hwn, ar adeg lle mae’r byd yn galw am arweinyddiaeth, mor bwysig.

“Dyma ein cyfle. Ein cyfle i wneud i enw ein gwlad – Cymru – atseinio drwy’r canrifoedd”.

Mae llythyr gan arbenigwyr ac ymgyrchwyr amgylcheddol – fel Naomi Klein, Bill McKibben a Nnimmo Bassey – wedi cael ei gyhoeddi yn y Western Mail heddiw hefyd, sy’n galw ar ACau i gefnogi’r moratoriwm.