Dr Meredydd Evans
Fe fydd y diweddar Dr Meredydd Evans yn cael ei anrhydeddu gyda gwobr Traddodiad Da yng ngwobrau gwerin blynyddol BBC Radio 2 yng Nghaerdydd heno.

Bu farw Merêd fis Chwefror yn 95 oed ac fe fydd yn cael ei gydnabod am ei gyfraniad eithriadol i gerddoriaeth werin Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Fe fydd prosiect 10 Mewn Bws – 10 o gerddorion ifanc a deithiodd o gwmpas Cymru’n hyrwyddo canu Cymreig traddodiadol – hefyd yn perfformio teyrnged iddo trwy ganu ‘Bachgen Ifanc Ydwyf’ yn ystod y seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm.

“Ychydig iawn, iawn o son sydd wedi bod am Gymru erioed yn y seremoni yma – ond mae’r wobr yn cydnabod nid yn unig gyfraniad personol Mered ond hefyd fod Cymru o’r diwedd yn dechrau cael ein cydnabod y tu hwnt i’r ffiniau Cymreig arferol,” meddai’r hyrwyddwr a’r canwr gwerin Arfon Gwilym wrth Golwg.

“Mae’n adlewyrchu’r adfywiad yn y blynyddoedd diwetha’ ac, yn yr ystyr yna, mae’n wych o beth.”

Gweddw Meredydd Evans, Phyllis Kinney, fydd yn derbyn y wobr ar ei ran.

Hanes

Ganwyd Meredydd Evans yn Llanegryn, Meirionydd ac fe gafodd ei fagu yn Nhanygrisiau. Datblygodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac fe aeth ymlaen i astudio Ph.D mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Princeton, New Jersey.

Yn 1954 fe recordiodd ddetholiad o ganeuon i Folkways Records yn Efrog Newydd ac ar ôl iddo ddychwelyd i Gymru, fe wnaeth olygu dri chasgliad o ganeuon Cymraeg ynghyd a’i wraig Phyllis Kinney.

Roedd yn Bennaeth Adloniant Ysgafn BBC Cymru am gyfnod, ac yn groniclwr caneuon Cymraeg traddodiadol.

Y noson fawr

Cyflwynydd Folk Show Radio 2, Mark Radcliffe a’r gantores Albanaidd, Julie Fowlis fydd yn cyflwyno’r noson, ac fe fydd i’w chlywed yn fyw rhwng 7.30yh a 10yh ar Radio 2 a Radio Wales. Fe fydd rhaglen arbennig gan Frank Hennessy yn dilyn am 10yh.

Dyma’r enwebiadau’n llawn:

Canwr Gwerin y Flwyddyn – Cara Dillon, Julie Fowlis, Nancy Kerr, Jez Lowe.

Y ddeuawd orau – Josienne Clarke a Ben Walker; O’Hooley a Tidow; Greg Russell a Ciaran Algar; Chris While a Julie Matthews.

Grŵp Gorau – Bellowhead, The Furrow Collective, The Gloaming, The Young ‘Uns.

Albwm Gorau – Fair Warning – The Rails; Nothing Can Bring Back the Hour – Josienne Clarke a Ben Walker; Sweet Visitor – Nancy Kerr; The Moral of the Elephant – Martin ac Eliza Carthy; Tincian – 9Bach.

Gwobr Horizon – Ange Hardy, Maz O’Connor, Stick In the Wheel, The Rails.

Cerddor y Flwyddyn – Martin Green, Will Pound, Sam Sweeney, Kathryn Tickell.

Cân Wreiddiol Orau – Swim To The Star – Peggy Seeger/Calum MacColl (perfformiad Peggy Seeger); The Necklace Of Wrens – Michael Hartnett (perfformiad The Gloaming); The Pitmen Poets – Jez Lowe; The Spider And The Wolf – Paul Simmonds (perfformiad Naomi Bedford).

Trac Traddodiadol Gorau – Bedlam – Stick in the Wheel; Handsome Molly – The Furrow Collective; Manus Mo Rùin – Cruinn; Samhradh Samhradh – The Gloaming.

Gwobr Werin BBC Radio 2 i Bobol Ifanc – Cup O’Joe, Roseanne Reid, Talisk, Wildwood Kin.