Jonathan Edwards
Fe fydd Plaid Cymru heddiw yn cyhoeddi cynlluniau i wella cysylltiadau band-eang ledled Cymru a sicrhau fod gan fusnesau mewn ardaloedd gwledig y gwasanaethau angenrheidiol i fedru cystadlu.

Dywedodd ymgeisydd y blaid dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Jonathan Edwards bod cysylltiad rhyngrwyd araf yn rhwystro busnesau gwledig rhag cyflawni eu potensial ac yn atal buddsoddwyr posib.

Mae pump o 20 awdurdod gweinyddol Cymru yn y categori isaf o ran cyflymder band-eang, yn ôl Ofcom, tra bod band-eang cyflym ond yn hygyrch i 22% o Sir Gaerfyrddin.

Petai Plaid Cymru mewn grym meddai, eu bwriad fyddai darparu band-eang cyflym i Gymru gyfan.

‘Anfantais’

“Os ydym am helpu busnesau gwledig i gystadlu yna mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau fod cysylltiadau rhyngrwyd cyflym a signal ffonau symudol yn hygyrch iddynt,” meddai Jonathan Edwards.

“Ein targed yw sicrhau fod gan bob rhan o Gymru fynediad i gyflymder o leiaf 30Mbps a sicrhau fod darparwyr gwasanaeth ffon symudol yn sicrhau gwasanaeth gwell ym mhob rhan o Gymru.

“Mae darpariaeth band-eang gwael yn rhoi busnesau gwledig dan anfantais, a gall atal busnesau rhag buddsoddi yn y Gymru wledig. Mae gormod o fusnesau, fel yr un rwy’n ymweld ag o heddiw, wedi buddsoddi arian eu hunain mewn band-eang cyflym iawn.

“Bydd Plaid Cymru yn bencampwr i’r Gymru wledig, ac mae sicrhau isadeiledd cryf yn rhan allweddol o hynny.”