Ieuan Wyn Jones
Mae’r ffigyrau diweddara’ yn dangos bod nifer y bobol sydd wedi hedfan o Ynys Môn i Gaerdydd ar ei uchaf ers 2009 – ond dim ond dau berson sydd wedi bwcio i hedfan ar y gwasanaeth newydd i Norwich.

Cyhoeddodd y cwmni LinksAir bod 1,145 o bobol wedi hedfan o Wlad y Medra i’r brifddinas ym mis Mawrth.

Roedd gobaith hefyd bod 10,000 o bobol am ddefnyddio’r gwasanaeth bob blwyddyn, fyddai’n golygu’r cynnydd mwyaf ers 2009.

Ond nid oedd newyddion mor bositif ar gyfer y teithiau i Norwich, sy’n cael eu lansio ddydd Lun, gyda dim ond dau berson wedi bwcio i hedfan yno.

Cafodd y gwasanaeth dadleuol ei alw yn ‘Ieuan-Air’ gan y Ceidwadwyr yn 2008 yn dilyn cyfnod Ieuan Wyn Jones, Aelod Cynulliad Môn ar y pryd, yn Ddirprwy Brif Weinidog.

Y llynedd roedd Ieuan Wyn Jones yn amddiffyn y ffaith fod cwmni LinksAir yn derbyn £184 o arian cyhoeddus am bob teithiwr, gan ddweud nad oedd modd gwneud heb y gwasanaeth.