Clwb Beicio Dwyfor ger Aberdaron
Fe fydd taith feics yn cyfuno ffitrwydd, seiclo a thynnu selffis mewn digwyddiad newydd y penwythnos hwn sydd wedi’i drefnu gan glwb seiclo o’r gogledd.

Dyma’r daith gyntaf o’i bath yn ôl Clwb Beicio Dwyfor, gan ei fod yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n gofyn i bobol dynnu hun-lun mewn tri phwynt penodol er mwyn profi eu bod wedi cwblhau’r daith.

Ac fe fydd yr hun-lun gorau o’r diwrnod yn derbyn cap swyddogol tîm Sky wedi ei arwyddo gan Dave Brailsford, yr hyfforddwr enwog o Ddeiniolen.

Y daith

Bydd 80 o bobol yn dewis seiclo un  ai llwybr 80km neu un 110km o amgylch Pen Llŷn – sy’n cynnwys Allt Rhiw, Mynydd Mawr ac allt Llithfaen – ond nid rasio yw diben y digwyddiad.

“Mae aelodau hŷn y clwb wrth eu boddau yn tynnu selffis wrth reidio o amgylch yr ardal ac felly mi roedd yn ffordd dda o drio gwneud rhywbeth gwahanol fel clwb,” meddai Eirwen Ann Williams sy’n aelod o Glwb Beicio Dwyfor.

“Mi fydd yn gyfle gwych i brofi’r ffitrwydd ddydd Sul wrth fwynhau golygfeydd godidog Pen Llŷn.”