Mae’r dylunydd ffasiwn David Emanuel wedi agor gardd arbennig i dynnu sylw at bwysigrwydd rhoi arian i ymladd canser.

Mae gardd Macmillan wedi ei chreu’n arbennig ar gyfer Sioe Flodau Caerdydd sy’n agor heddiw ac mae’r dylunydd bellach yn un o lysgenhadon yr elusen.

Fe ddaeth y dylunydd o Ben-y-bont ar Ogwr i gysylltiad gyda nyrsys Macmillan pan gafodd ddiagnosis canser y prostad yn 2012.

Pwysigrwydd rhoddion – a garddio

Bwriad yr ardd yw tynnu sylw at bwysigrwydd rhoddion sy’n cael eu gadael i’r elusen mewn ewyllysiau ond, yn ôl Macmillan, mae garddio hefyd yn help i gleifion.

“Mae llawer o bobol sydd wedi’u heffeithio gan ganser yn gweld bod garddio’n cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd corfforol a meddyliol,” meddai Jonathan Frost, Rheolwr Cymynroddion Macmillan.

Meddai David Emanuel: “Mae’r ardd yn ffordd gynnes o ddiolch i’r holl bobol hynny sydd wedi gadael cymynroddion hael fel y gall Macmillan wneud yr hyn y mae’n  ei wneud orau – sef gwneud yn siŵr nad oes neb yn gorfod wynebu canser ar ei ben ei hun.”

Ar hyn o bryd mae 130,000 o bobl yn byw gyda chanser yng Nghymru – nifer sy’n mynd i ddyblu erbyn 2030.