Llyfrgell Blaenafon - un o'r rhai sy'n cael ei foderneiddio (Llun Cyngor Torfaen)
Fe fydd amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ledled Cymru yn cael bron i £2.7 miliwn yn y cylch diweddara’ o grantiau gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r arian yn cael ei anelu’n benna’ at agor drysau i bobol o gymunedau llai breintiedig ac fe fydd £1 miliwn yn mynd at foderneiddio saith o lyfrgelloedd cyhoeddus – yn Abergwaun, Glyn Ebwy, Blaenafon, Porthmadog, Glannau Dyfrdwy, Caerdydd a Phowys.

Bydd yr £1.7 miliwn sy’n weddill yn cael ei ddefnyddio i helpu i ddenu mwy o amrywiaeth o bobol i weld casgliadau mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, gan gynnwys £235,000 i ddenu pobol o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

Fe fydd £255,000 arall yn mynd at sefydlu Gwasanaeth Llyfrgell Digidol i rannu e-lyfrau, e-gylchgronau, llyfrau llafar a ffynonellau gwybodaeth yn rhad ac am ddim.

“Mae trechu tlodi yn ganolog i’n polisi cymunedol yng Nghymru, a dyna pam fy mod wedi ymrwymo i sicrhau y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i ehangu mynediad at ddiwylliant mewn rhai o’n hardaloedd mwyaf di-fraint,” meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Ken Skates.