Katherine Jenkins a'i gwr Andrew Levitas
Mae Katherine Jenkins wedi cyhoeddi ei bod hi’n disgwyl babi.

Dywedodd y gantores 34 mlwydd oed ei bod hi a’i gwr Andrew Levitas “wrth eu bodd” gyda’r newydd y bydd merch fach yn cael ei geni iddynt yn yr Hydref.

Priododd Katherine Jenkins a’r gwneuthurwr ffilm ac artist Andrew Levitas ym Mhalas Hampton Court yn Llundain fis Medi’r llynedd.

Cyn hynny, roedd Katherine Jenkins wedi dyweddïo a’r cyflwynydd teledu Gethin Jones cyn i’r berthynas ddod i ben yn 2011.