Mae dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty ar ol tân mewn fflat yn Abertawe bore ma.

Cafodd fflat llawr cyntaf yn Llys Clyne yn Sgeti ei “ddifrodi’n ddifrifol.”

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin  Cymru mai peiriant sychu dillad oedd wedi achosi’r tân.

Cafodd pobl eu symud o’u cartrefi yn y bloc o fflatiau 11 llawr pan gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 5yb ddydd Iau.

Roedd mwy na 30 o ddiffoddwyr tân ar y safle er mwyn ceisio rheoli’r fflamau. Mae’r tân bellach wedi cael ei ddiffodd.

Mae’r dyn a gafodd ei gludo i’r ysbyty yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.

Mae’r Gwasanaeth Tân wedi rhybuddio am beryglon defnyddio peiriannau golchi a sychu dillad dros nos oherwydd y gwres sy’n cael ei gynhyrchu ganddyn nhw.