Mae safon rhai wardiau yn ysbyty seiciatryddol Cefn Coed, Abertawe yn “ymylu ar esgeulustod” a morâl staff yn “arbennig o isel” yn ôl adroddiad newydd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Bu AGIC yn ymweld â’r ysbyty o 17-20 Tachwedd 2014 gan gyfweld â chleifion a staff ac arolygu ansawdd y gofal.

Daeth swyddogion i’r canlyniad bod materion “annerbyniol” o fewn yr ysbyty gan gynnwys niferoedd staff, preifatrwydd cleifion a materion iechyd a diogelwch.

Fodd bynnag, gwelwyd bod llawer o ewyllys dda ymysg staff a pherthynas dda rhyngddyn nhw a’r  cleifion.

“Mae amgylchedd wardiau eraill yn llai boddhaol ac yn ymylu ar esgeulustod, gyda dodrefn a ffitiadau a oedd wedi torri,” meddai’r adroddiad.

Gwelliant

Dywedodd AGIC bod nifer o feysydd lle mae angen gwelliant ar unwaith, gan gynnwys:

  • dim digon o staff ar rai wardiau, yn enwedig yn y nos;
  • prinder staff yn gwisgo larymau personol;
  • mae rhai amgylcheddau wardiau wedi  dirywio i lefel annerbyniol ac angen eu trwsio ac ailaddurno,
  • materion preifatrwydd ac urddas heb ddigon o lenni ar gyfer yr holl ffenestri – tywelion a phapur yn cael eu defnyddio fel mesurau dros dro.

‘Effeithio ar iechyd’

Meddai, Alun Jones, Cyfarwyddwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o Arolygu, Rheoleiddio ac Ymchwilio: “Roedd y materion a welsom yn annerbyniol, gan effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol y cleifion, yn ogystal â diogelwch y staff.

“Byddwn yn parhau i geisio sicrwydd gan y bwrdd iechyd ei fod wedi delio â’r materion difrifol yn unol â’i chynlluniau arfaethedig. Mae AGIC yn cyflwyno rhaglen barhaus o archwiliadau sy’n ystyried cudd-wybodaeth. Byddwn yn parhau i asesu’r angen am arolygiadau dilynol yn Ysbyty Cefn Coed.”

Mae AGIC wedi gorchymyn bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn cwblhau cynllun gwella i fynd i’r afael â chanfyddiadau allweddol yr arolygiad a’i gyflwyno o fewn pythefnos.

Mae’r adroddiad llawn ar gael ar wefan AGIC