April Jones
Mae rhieni April Jones wedi dweud bod pedoffiliaid sy’n ceisio cael cymorth cyn iddyn nhw gyflawni trosedd yn “haeddu cyfle.”

Cafodd y ferch bump oed ei chipio ger ei chartref ym Machynlleth mwy na dwy flynedd yn ôl gan Mark Bridger cyn cael ei llofruddio. Cafodd ei garcharu am oes am gipio a llofruddio April Jones.

Mae ei rhieni, Coral a Paul Jones wedi lansio ymgyrch i dynnu sylw at y broblem gynyddol o  ddelweddau anweddus o blant ar y we.

Daeth i’r amlwg fod Bridger, 47, wedi bod yn edrych ar ddelweddau ar y we o blant yn cael eu cam-drin oriau’n unig cyn iddi gael ei chipio.

Mae Paul Jones wedi dweud wrth raglen Week In Week Out y BBC ei fod yn credu mai ceisio atal y broblem cyn i drosedd gael ei chyflawni yw’r ateb, ac mae’n dweud y dylai pobl fynd at yr awdurdodau am gymorth.

Dywedodd: “Os ydych chi’n credu eich bod yn hoffi plant yn y ffordd yna, neu unrhyw beth felly, os ydych yn gofyn am gymorth yna rydych chi haeddu cyfle. Ond os nad ydych chi’n gofyn am help ac yn cyflawni trosedd, yna rydych chi’n bedoffeil.”

Y llynedd roedd y teulu wedi ymuno a rhieni Madeleine McCann, Gerry a Kate, i gefnogi Child Rescue Alert gyda’r elusen Missing People.

Fydd rhaglen Week in Week Out, ‘Life After April’, ar BBC One Wales am 9yh heno (nos Iau).