Fe fydd aelodau o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Conwy yn trafod cais ar gyfer Safle Sipsiwn a Theithwyr parhaol ger yr A55 y prynhawn yma.

Mae’r cais yn gofyn am ganiatâd cynllunio ar gyfer dau adeilad a phedwar llain, fyddai hefyd yn cynnwys mynediad, ffensys, lle parcio, giât diogelwch newydd, strwythurau cadw, a newidiadau tirlunio.

Byddai pob un o’r pedwar llain yn cynnwys carafán sefydlog, carafán deithiol, sied a 2 le parcio, yn ôl y cyngor.

Mae gwrthwynebiad lleol wedi bod i’r cais sy’n amlinellu pryder am ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn dweud nad oes cyfiawnhad dros gael carafán breswyl y tu allan i ardal adeiledig.

Lleoliad

Mae safle’r cais wedi ei leoli ar ochr gorllewinol Ffordd Bangor, rhwng yr A55 a ffin Parc Cenedlaethol Eryri ac yn gorwedd o fewn Tirwedd Hanesyddol ddynodedig Creuddyn a Chonwy.

Mae’n mesur 0.255 hectar ac yn cynnwys darn o ffordd darmac, gan arwain o Ffordd Bangor, a rhan o’r arglawdd ar lethr ochr yn ochr â’r A55.

I’r dwyrain o’r safle mae nifer o adeiladau diwydiannol ac ymhellach i’r gogledd-ddwyrain mae Parc Busnes Conwy (Ffordd Sam Pari). Ar yr ochr arall i’r A55, i’r gogledd, mae Parc Carafanau Aberconwy.

Mae yna 3 garafán deithiol ar y safle ers mis Medi 2014, sy’n cael eu meddiannu gan deuluoedd o sipsiwn a theithwyr.