Shane ar y maes rygbi... ond ar gefn beic heddiw
Heddiw, mae’r cyn-asgellwr rygbi rhyngwladol, Shane Williams, yn arwain 150 o feicwyr ar daith hanesyddol, er mwyn codi arian at achosion da.

Mae Shane Williams yn ail-greu’r llwybr 36 milltir a reidiodd y dyn busnes Arthur Williams, rhwng Glanaman ac Abertawe, ar Ddydd Llun y Pasg, 1885.

Y daith honno, 130 mlynedd union yn ôl, a roddodd fusnes y Defiance Cycle Works ym mhen ucha’ Dyffryn Aman, ar sylfaen gadarn. Roedd yn cynhyrchu rhai o’r beiciau tsiaen cynta’, ac ar ddiwrnod y daith wreiddiol, fe gafwyd mwy na 50 o archebion.

Yr hanes

Fe sefydlwyd ffatri y Defiance Cycle Company yn 1880 gan Arthur a William Williams. Fe ddechreuon nhw gynhyrchu beiciau cyffredin yn 1878, ac yna, yn 1885, fe gynhyrchon nhw eu beic cynta’ gyda tsiaen arno.

Ar Ebrill 9, 1885 – Dydd Llun y Pasg – fe gafodd un o feiciau tsiaen y Defiance Cycle Company ei reidio o’r ffatri yng Nglanaman i Abertawe ac yn ôl gan Arthur Williams. Fe drodd pobol allan yn eu cannoedd i weld hyn.

Fe dyfodd y cwmni nes agor warws i werthu beiciau yn Eloff Street, Johannesburg, De Affrica yn 1895. Fe gynhyrchwyd beic modur gan y cwmni yn 1901. Fe fu Arthur Williams yn gwerthu beiciau tan ei farwolaeth yn 1948.