Adam Price - un o siaradwyr y rali heddiw
Mae trefnwyr yn disgwyl i “gannoedd” o bobol ymgynnull yng Nghaerdydd heddiw i alw am ragor o rymoedd i’r Cynulliad, gan ddadlau y byddai ymreolaeth i Gymru yn gwella cyflwr yr economi.

Mae Yes Cymru, y grŵp amhleidiol sy’n trefnu’r digwyddiad, yn dweud mai prif neges y rali fydd i Gymru gael yr un pwerau â’r Alban.

Ymhlith y siaradwyr yn y rali ar risiau’r Senedd, bydd y cyn-Aelod Seneddol Adam Price; yr awdur Catrin Dafydd; Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Jamie Bevan a’r cerflunydd David Petersen.

Yn siarad cyn y rali, meddai Adam Price: “Mae Cymru ar ei hôl hi – yn economaidd ac yn gymdeithasol – am ei bod hi tu ôl i’r Alban, Lloegr, Iwerddon a phob cenedl arall pan mae’n dod at fater o rym.

“Heb rym, heb ddyfodol. Dim ond gyda grym y daw gobaith am yfory gwell.”

Arolwg

Yn ôl arolwg barn YouGov a gyhoeddwyd gan Yes Cymru y llynedd, mae 63% o bobl Cymru eisiau gweld Cynulliad Cymru yn cael yr un pwerau newydd â’r Alban.
Dangosodd arolwg barn ICM Comisiwn Silk hefyd gefnogaeth gref i ddatganoli materion fel budd-daliadau, darlledu, a phlismona.

Meddai Iestyn Rhobert ar ran Yes Cymru: “Mae pwy sy’n rhedeg Cymru yn rhy bwysig i’w adael i wleidyddion yn unig. Ar ein hysgwyddau ni mae’r cyfrifoldeb dros ddyfodol Cymru yn gorwedd.

“Allwn ni ddim gadael i Gymru gael ei gadael ar ôl. Mae’n amser am chwarae teg i’n gwlad.

“Dylen ni, bobl Cymru, gael y grymoedd i reoli ein tir a’n dŵr ynghyd â phwy sy’n tyllu oddi tano fe. Y pwerau i redeg ein heddlu a’n llysoedd. Y gallu i benderfynu ar ddarlledu, polisïau trethu a lles.”