Llun o dudalen anwydau Galw Iechyd Cymru
Mae gwefan a gafodd ei chreu i geisio lleddfu’r pwysau ar ysbytai a meddygon teulu wedi gweld cynnydd o 30% mewn blwyddyn yn nifer y bobol sy’n ei defnyddio.

Fe wnaeth 4.5 miliwn o bobol ddefnyddio gwefan Galw Iechyd Cymru i chwilio am gyngor meddygol yn 2014/15 – y nifer mwyaf erioed.

Yn ôl Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, mae’r wefan wedi cael ei haddasu i ateb anghenion y cyhoedd ac erbyn hyn yn cynnwys adnoddau gan gynnwys sioe sleidiau am frech ar y croen, fideo hunan-archwilio a mwy nag 20 o raglenni i djecio symptomau.

“Mae gwirwyr symptomau ar-lein yn rhoi’r gallu i ddefnyddwyr wirio eu symptomau ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw a hynny am ddim,” meddai Leanne Hawker, un o’r tîm.