Rhan o'r cynlluniau ar gyfer adnewyddu'r castell
Mae ymgyrchwyr yn galw ar berchnogion Castell Aberteifi i alw cyfarfod cyhoeddus i drafod protestiadau am Seisnigrwydd y seremoni i ailagor yr adeilad hanesyddol.

Yn ôl yr ymgyrchwyr mae’r bwriad i roi’r prif le i fand gwerin o Loegr yn “bychanu’r hyn sy’n annwyl i ni o ran y diwylliant Cymreig” ac yn “sarhad”.

Mae deiseb yn cael ei threfnu a’r bwriad yw cael enwau nifer o bobol adnabyddus i gefnogi’r alwad am newid y cynlluniau.

Mae’r ymgyrchwyr yn dweud hefyd fod gwahoddiad i Orsedd y Beirdd gymryd rhan wedi ei dynnu’n ôl – er fod yr Orsedd yn barod i dorri ei arfer o beidio â chymryd rhan mewn seremonïau y tu allan i’r Eisteddfod Genedlaethol.

Eisiau trafodaeth

Os na fydd Ymddiriedolaeth Cadwgan – sydd wedi cael grantiau o tua £12 miliwn i adnewyddu’r castell – yn cytuno i drafod, mae’n bosib y bydd yr ymgyrchwyr yn cynnal eu cyfarfod eu hunain.

Yn ôl un o’r grŵp sy’n galw’u hunain yn Gyfeillion Rhys ap Gruffydd (yr Arglwydd Rhys), maen nhw wedi methu â chael trafodaeth gyda’r Ymddiriedolaeth.

Dydyn nhw ddim eisiau gwrthdaro, meddai Hefin Wyn o Faenclochog, ond maen nhw’n gobeithio y bydd y trefnwyr yn cytuno i newid eu syniadau.

Castell yr Arglwydd Rhys

Mae’r helynt wedi codi wrth i Ymddiriedolaeth Cadwgan gyhoeddi manylion y seremoni i ailagor y castell, sy’n enwog am ei gysylltiadau gyda’r tywysog, Yr Arglwydd Rhys, a’r eisteddfod gynta’ erioed yn y llyfrau hanes.

Y prif berfformwyr fydd band o’r enw Bellowhead, sydd, yn ôl y disgrifiad, yn cynrychioli “nerth a dirgelwch” traddodiad canu gwerin Lloegr ac Ewrop. Ail iddyn nhw fydd y band Cymraeg 9Bach.

Mae hynny’n “sarhad”, meddai Hefin Wyn. “Mae’n sarhad ar 9Bach ac ar y genedl, eu bod nhw’n cael eu gwahodd i gefnogi band sy’n cynrychioli diwylliant hollol wahanol i’r un yr oedd Rhys ap Grufydd yn ei gefnogi”.

Mwldan

Mae’r theatr leol, Theatr Mwldan, yn rhan o’r trefniadau hefyd ac maen nhw’n cael eu beirniadu am drefnu cyfres o ddigwyddiadau yn y castell yn ymwneud â gweithiau rhai fel Gilbert and Sullivan a Shakespeare yn hytrach na chynyrchiadau Cymreig.

Fe fydd Golwg360 yn ceisio cael ymateb yr Ymddiriedolaeth.