Mae Llywodraeth Cymru wedi arwyddo cytundeb gyda’r Trysorlys a fydd yn sicrhau buddsoddiad sylweddol mewn tai cyngor.

Bydd cynghorau yn cael mwy o bwerau dros eu stoc dai, a fydd yn sicrhau ei bod yn cadw incwm rhent gan denantiaid. Y mae’r drefn ar hyn o bryd yn cael ei redeg gan y Trysorlys oedd yn penderfynu ar swm y cymorth-dal.

O ganlyniad i’r drefn newydd, bydd cynghorau yn cael rheolaeth lawn dros ei asedau, a fydd yn creu dros £18 biliwn o incwm rhent dros y 30 mlynedd nesaf.

Bydd yr incwm hwn yn cael ei fuddsoddi yn lleol er mwyn gwella cartrefi a chodi cannoedd o dai cyngor newydd.

Effaith gadarnhaol

Dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Thaclo Tlodi, Lesley Griffiths: “Bydd y cytundeb hwn yn cael effaith gadarnhaol ar y stoc dai cyngor.”

“Bydd pob cyngor ar eu hennill yn flynyddol a byddant yn mwynhau’r rhyddid i allu darparu hyblygrwydd a rheolaeth er mwyn buddsoddi ymhellach yn y stoc dai.”

“Mae’r cynnydd mewn incwm tai cyngor o ganlyniad i’r cytundeb hwn yn golygu eu bod yn gwella’r eiddo presennol ac yn adeiladu tai cyngor newydd.

“Bydd tenantiaid yn elwa o’r cytundeb hanesyddol hwn, wrth i gartrefi fod yn fwy cyffyrddus ac yn fwy safonol.”

Dim ‘Hawl i Brynu’

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ei bod yn dod a’r cynllun Hawl i Brynu i ben a oedd yn galluogi tenantiaid tai cymdeithasol i brynu eu cartref am bris gostyngol o hyd at £16,000.

Sicrhaodd y polisi fod 138,423 o dai wedi eu gwerthu ers 1981.

Ychwanegodd y Gweinidog: “Yr ydym yn bwriadu gwarchod a datblygu ein tai cymdeithasol er mwyn sicrhau fod pobl sydd ei angen fwyaf yn cael tai a chartrefi fforddiadwy a safonol.”