Mae dau ddyn wedi marw wedi bod i barti yn Noc Penfro – ac mae’r awdurdodau’n credu iddyn nhw gael eu gwenwyno gan gyffuriau cyfreithlon sy’n cael eu galw’n ‘legal highs.

Daethpwyd o hyd i’r ddau gyfaill, Dean Boswell, 36, a Stephen John, 40, yn farw yn eu gwelyau eu hunain drannoeth y parti.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad ac ar hyn o bryd yn aros am ganlyniadau profion tocsicoleg er mwyn gallu cadarnhau achos y marwolaethau.

Fe ddychwelodd y ddau i’w cartrefi wedi’r parti, a’u teuluoedd a ddaeth o hyd iddyn nhw yn farw. Mae trydydd ffrind wedi’i gludo i’r ysbyty, a’r gred ydi ei fod yntau wedi cymryd yr un cyffur yn y parti.