Glyn Davies AS
Mae Aelod Seneddol y Ceidwadwyr dros Sir Drefaldwyn wedi dweud ei fod “wedi’i syfrdanu”  gyda’r syniad y gallai rhywun o’r llywodraeth fod wedi rhyddhau gwybodaeth ddirgel am ddyfodol ffermydd gwynt yng nghanolbarth Cymru i’r wasg.

Dros y penwythnos honnodd adroddiad ym mhapur newydd y Sunday Telegraph bod y weinidogaeth Ynni a Newid Hinsawdd yn San Steffan eisoes wedi cymeradwyo cynlluniau i godi tyrbinau gwynt newydd – ond eu bod yn cadw’n ddistaw nes ar ôl yr etholiad.

Dywedodd Glyn Davies y byddai’n siomedig iawn petai gwybodaeth o’r fath wedi cael ei ryddhau’n fwriadol, gan ei ddisgrifio fel “gêm wleidyddol fudr”.

Amddiffyn y Democratiaid Rhyddfrydol

Yn ôl yr adroddiad mae’r weinidogaeth eisoes wedi penderfynu rhoi caniatâd i dair fferm wynt rhwng Machynlleth a’r Trallwng gael ei hadeiladu.

Ond mae’r Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd Ed Davey, o’r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi mynnu nad yw hynny’n cael ei gyhoeddi ar ôl yr etholiad ym mis Mai.

Mae’n debyg bod y Democratiaid Rhyddfrydol dal yn awyddus i gipio sedd Sir Drefaldwyn oddi wrth y Ceidwadwyr yn yr etholiad.

Ond byddai datgelu eu bod o blaid y ffermydd gwynt anferth, sydd wedi cael eu gwrthwynebu lawer o bobl leol, yn ergyd enfawr i’r ymdrechion hynny.

Fe allai hefyd daro ymdrechion etholiadol y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholaethau Brycheiniog a Maesyfed, a Ceredigion, sydd hefyd yn y canolbarth ond ddim yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y datblygiadau.

“Gwallgofrwydd”

Dywedodd Glyn Davies, fydd yn sefyll dros y Ceidwadwyr yn Sir Drefaldwyn unwaith eto ym mis Mai, na ddylai unrhyw un fod wedi rhyddhau gwybodaeth o’r fath am y ffermydd gwynt cyn yr adroddiad swyddogol.

“Fe fydden ni wedi syfrdanu os oedd yr Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd neu unrhyw un arall yn DECC wedi rhyddhau gwybodaeth am benderfyniad ar yr ymchwiliad cyhoeddus i ffermydd gwynt yng nghanolbarth Cymru i’r Sunday Telgraph,” meddai Glyn Davies.

“Dydw i ddim mewn safle i gadarnhau na gwadu’r honiadau yn yr adroddiad. Nid dyna fyddai’r peth iawn i wneud o gwbl. Mae hyn ynglŷn â dyfodol canolbarth Cymru, nid rhyw gêm wleidyddol fudr.”

Ychwanegodd mai “gwallgofrwydd” fyddai caniatáu adeiladu’r tyrbinau gwynt, rhai ohonyn nhw hyd at 450 troedfedd o uchder.

“Rydw i wedi dadlau y dylai unrhyw benderfyniad gael ei ohirio, er mwyn gadael i ysgrifennydd gwahanol i Ed Davey ei ystyried,” mynnodd Glyn Davies.

“Os ydw i’n cael fy ailethol yn Sir Drefaldwyn, fe fydda i’n mynnu bod ystyriaeth gofalus ychwanegol yn cael ei roi i’r cynllun yma ar dyrbinau gwynt a pheilonau.

“Mae’n wallgofrwydd ariannol ac amgylcheddol. Dylid cefnu ar y syniad.”