Mae’r cyffro wedi bod yn adeiladu drwy’r wythnos, a heddiw fe fydd Cymru yn camu i’r cae yn Haifa i geisio sicrhau buddugoliaeth fyddai’n eu rhoi nhw ar frig eu grŵp rhagbrofol.

Israel sydd ar frig y Grŵp B ar hyn o bryd, pwynt o flaen Cymru, wrth i’r timau frwydro am le ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Mae rheolwr Cymru Chris Coleman eisoes wedi disgrifio’r gêm fel un pwysicaf y tîm cenedlaethol ers 2003, pan gollodd Cymru yn boenus i Rwsia mewn gêm ail gyfle wrth geisio cyrraedd Ewro 2004.

Fe fyddai buddugoliaeth i Gareth Bale a’r tîm fory yn eu rhoi ar frig y grŵp hanner ffordd drwy’r ymgyrch bresennol, hwb enfawr yn yr ymgais i fynd un cam ymhellach y tro hwn.

Dyma beth sydd angen i chi wybod cyn y gêm fawr am 5.00 o’r gloch heddiw.

Carfan gref

Fel bron pob gêm ryngwladol, mae ambell enw ar goll i Gymru oherwydd anaf – James Chester, Jonny Williams, George Williams, Paul Dummett ac Emyr Huws sydd yn absennol y tro hwn.

Dim ond un sydd wedi tynnu nôl yr wythnos hon allan o’r garfan wreiddiol gafodd ei henwi, sef Jazz Richards oherwydd anaf, gyda Declan John yn cymryd ei le.

Mae hynny’n golygu bod y sêr mawr – Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen ac Ashley Williams – i gyd yn barod i wynebu’r Israeliaid.

Hwyliau da

Roedd y garfan i gyd yn ymddangos mewn hwyliau da’r wythnos hon, gyda nifer o chwaraewyr Cymru yn mynnu na fyddai trafferthion diweddar Gareth Bale gyda’i glwb yn effeithio ar ei wlad.

Neges debyg oedd gan Coleman heddiw, gan bwysleisio agosatrwydd y garfan a dweud nad oedd wedi clywed Bale yn sôn am ei glwb unwaith yn ystod y paratoadau.

Fe fuodd Joe Allen yn siarad am sut mae’r tîm yn defnyddio eu hatgofion o’r gêm honno yn erbyn Rwsia fel sbardun i fynd un cam yn well y tro hwn.

Ac ar ôl siwrne hir nôl o anaf mae Sam Vokes wedi mynnu ei fod yn ddigon ffit i chwarae 90 munud yn erbyn Israel, er bod Coleman wedi codi amheuon ynglŷn â hynny’r wythnos diwethaf.

Pwynt, neu dri?

Mynnodd Joe Allen hefyd fod Cymru’n benderfynol o ddychwelyd o Israel gyda’r tri phwynt – gallwch wrando ar sylwadau Allen yn y Gymraeg yn llawn isod.

Yn ei flog i Golwg360 yr wythnos hon, fodd bynnag, mae Rhys Hartley’n awgrymu mai prif nod y ddau dîm fydd ceisio osgoi colli’r gêm gan y byddai hynny hefyd yn rhoi hwb i’r gwrthwynebwyr.

Beth am y gwrthwynebwyr yna, felly? Mae Iolo Cheung wedi bod yn edrych ar sut siâp sydd ar Israel, yr hanes gyda Chymru, a phwy o’u carfan bresennol sydd yn debygol o achosi trafferth.

Ond nid pawb sydd yn hapus am y gêm, gyda’r ymgyrchwr iaith Ffred Ffransis yn dadlau bod “gwarth” ar gefnogwyr Cymru am fethu cyfle i wneud safiad yn erbyn gorthrwm Israel.

Pwy sydd yn debygol o ddechrau’r gêm i Gymru felly, a beth yw gobeithion y tîm o gipio’r pwyntiau yn Haifa? Hynny a mwy i gyd yn cael ei drafod ar Pod Pêl-droed Golwg360 yr wythnos hon!