Mae “cannoedd” wedi cefnogi dau academydd Cymraeg wnaeth darfu ar gyfarfod Ukip ym Mhorthmadog yr wythnos hon.
Ac mae Dr Richard Glyn Roberts a Dr Simon Brooks yn cymell eraill i ddilyn eu hesiampl a mynychu cyfarfodydd Ukip a gofyn cwestiynau yn yr iaith Gymraeg.
“Os daw Ukip draw i’ch ardal chi, ewch draw a’u herio,” meddai Dr Simon Brooks.
“Eu herio’n gyfreithlon, heddychlon a gyda hunan-barch, ond eu herio’r un fath.”
Cafodd gwleidyddion Ukip eu gwylltio gan y ddau academydd yn holi cwestiynau yn Gymraeg, gyda’r Dirprwy Arweinydd Paul Nuttall yn disgrifio’r protestwyr ar twitter fel ‘two hard Left agitators’.
Yn ôl Chris Gillibrand, ymgeisydd Ukip yn Nwyfor Meirionydd, roedd y ddau academydd wedi “gweiddi a boddi llais” Paul Nuttall yn y cyfarfod. Ac roedd pawb a oedd yno, yn ddieithriad meddai, yn “appalled” gydag ymddygiad yr academwyr.
Ukip “yn hau drwgdybiaeth”
Wrth esbonio’r penderfyniad i darfu ar y cyfarfod, dywedodd Dr Richard Glyn Roberts wrth golwg360:
“Mae UKIP yn rhan o symudiad ehangach sy’n hau drwgdybiaeth o leiafrifoedd gorthrymedig. Mae’r Cymry yn un o’r lleiafrifoedd rheini.
“Maen nhw’n dymuno ein gwasgu allan o fodolaeth dan bwysau hegemoni angloffon sy’n cydredeg â chenedlaetholdeb Prydeinig ac economeg neo-ryddfrydol.”
“Cannoedd” yn cefnogi
Yn ôl Dr Simon Brooks mae “cannoedd o sylwadau ar facebook ac ar Twitter” yn gefnogol i’r hyn wnaed ym Mhorthmadog.
Ac yn ôl Dr Richard Glyn Roberts “mae’r ymateb yn dangos nad oes cefnogaeth i’r UKIP yn y Gymru Gymraeg”.
Dyma flas o rai o’r sylwadau Cymraeg ar wefannau cymdeithasol:
Plaid Ifanc Youth @plaidifancyouth
Pob cefnogaeth am amlygu agwedd hynod wrth-Gymraeg @UKIP #parch #CymruRyddGymraeg
Gobeithio bydd hyn yn dechrau trend. Byddaf yn sicr yn mynychu unrhyw cyfarfod yn Abertawe ac eu herio. Da iawn!
Gwilym Euros Davies @gwilymed
diolch am fynd yno a chodi hyn efo nhw
Diolch i am sefyll i fyny yn erbyn y Bigots fel @paulnuttallukip #MasAUKIP #NotoUKIP
diolch am wneud safiad ddyla fod yn amlwg i’r person lleiaf goleuedig ar y Ddaear. Rhaid i’r Brits barchu ein bodolaeth #UKIP
Da iawn am heclo Ukip!
Da iawn pobol Porthmadog, cicio #ukip o’r dre. Mwy o hyn da ni angen
Porthmadog tan nai farw- dim UKIP – Porthmadog till i die no UKIP #bigots