Ian Watkins
Mae dau dditectif yn wynebu achos o gamweinyddu ar ôl i ymchwiliad ddarganfod na wnaethon nhw ystyried pob trywydd posib yn y broses o erlyn y pedoffeil Ian Watkins.

Mae’r ymchwiliad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) wedi dod i’r casgliad bod Heddlu Swydd Bedford wedi cymryd camau brys i ymchwilio i honiadau o gam-drin plentyn yn ymwneud a Watkins yn 2012 ac i warchod plentyn.

Ond mae’r IPCC  wedi awgrymu y dylai dau dditectif o’r llu fod ag achos i’w ateb ynglŷn â pham na wnaethon nhw gydymffurfio a pholisi’r heddlu o gofnodi penderfyniadau, a pham  na chafodd pob llwybr ei ymchwilio yn dilyn cwyn gan Joanne Mjadzelics am Watkins o Bontypridd.

Cafodd cyn-ganwr y Lostprophets ei garcharu ym mis Rhagfyr y llynedd am 35 mlynedd wedi iddo gyfaddef i gyfres o droseddau rhyw, gan gynnwys ymgais i dreisio babi.

Yr ymchwiliad

Dechreuodd ymchwiliad yr IPCC ym mis Ionawr y llynedd wedi i’r heddlu dderbyn cwyn gan gyn-gariad Ian Watkins, Joanne Mjadzelics, a gafwyd yn ddieuog yn ddiweddar o fod a delweddau anweddus yn ei meddiant.

Daeth i’r casgliad nad oedd achos i’w ateb yn ymwneud a chwyn Joanne Mjadzelics eu bod nhw wedi methu a diogelu plentyn 18 mis oed, sy’n cael ei adnabod fel Plentyn A.

“Ni ddaeth yr ymchwiliad i’r canlyniad y gall y llu fod wedi atal unrhyw droseddu neu gyhuddo Ian Watkins yn gynt. Ond mae mwy o gamau ymchwiliadol y gallai ditectifs fod wedi’u cymryd, gan gynnwys dadansoddi cyfarpar trydanol gan Miss A (mam y plentyn),” meddai comisiynydd yr IPCC Jan Williams.

“Fe ddywedodd y ddau dditectif nad oedden nhw’n credu bod achos i gymryd y cyfarpar, ac mae hi’n siomedig na wnaethon nhw gofnodi’r penderfyniad hwn.”

Mae Heddlu Swydd Bedford a’r IPCC wedi cytuno y dylai’r ddau swyddog wynebu camau rheoli ac mae ymchwiliad arall yn parhau i gwynion gafodd eu derbyn ynglŷn â Watkins gan Heddlu De Cymru a Heddlu Swydd Efrog.