Mae seiclwr yn ei 60au wedi marw wedi iddo ddisgyn ym Mwlch yr Oernant ger Llangollen.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 4 o’r gloch bnawn ddoe, ond bu farw’r dyn o Lannau Mersi yn y fan a’r lle.

Dywedodd yr Arolygydd Nicola Collins bod amgylchiadau’r farwolaeth yn cael eu harchwilio ond nad oes lle i gredu bod cerbyd arall yn rhan o’r digwyddiad.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.

Roedd yr A542 ynghau ddoe wrth i swyddogion ymateb i’r digwyddiad ond mae bellach wedi ail-agor.