Bydd Cabinet Cyngor Powys yn cyfarfod heddiw i drafod newidiadau “radical” i addysg uwchradd y sir.

Meddai’r cyngor fod gostyngiad yn nifer disgyblion a phwysau ariannol wedi creu sefyllfa nad oes dewis ond gwneud newidiadau mawr er mwyn “helpu disgyblion gyrraedd eu potensial.”

Mae’r newidiadau mwyaf wedi eu cynllunio ar gyfer de’r sir ble fyddan nhw’n trafod cau ysgolion uwchradd Aberhonddu a Gwernyfed ac adeiladu Campws Dysgu’r Bannau yn Aberhonddu gwerth £50 miliwn yn eu lle.

Byddai’r Campws yn cael ei ddatblygu trwy bartneriaeth rhwng y Cyngor, yr ysgolion a Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot.   Bydd y Campws newydd yn cynnwys ysgol cyfrwng Saesneg i ddisgyblion 11-16 oed, ynghyd ag Academi Chweched Dosbarth sy’n darparu amrywiaeth eang o gyrsiau Lefel A, a Choleg sy’n cynnig cyrsiau Galwedigaethol

Yn dilyn cytuno ar y cynlluniau mewn egwyddor heddiw, bydd y cyngor yn dechrau ymgynghori gydag arbenigwyr ym mis Mai, ac yna gyda  rhieni, disgyblion, staff a chymunedau ym mis Medi.

Canolbarth Powys

Yn y canolbarth, mae’r cyngor eisoes wedi son y bydd yn cynnal adolygiad o addysg uwchradd yn Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod, oherwydd eu bod yn rhagweld nifer y disgyblion yn y ddwy ysgol yn disgyn i ryw 900 mewn ychydig flynyddoedd.

Gobaith y Cyngor yw y bydd yna un ysgol uwchradd ddwyieithog yng nghanol Powys gyda chweched dosbarth ffyniannus, ond bydd angen asesiad llawn yn gyntaf er mwyn archwilio pob dewis.

Bydd y Cabinet yn trafod y cynllun yma ym mis Gorffennaf.

Gogledd Powys

Yn y gogledd, bydd y cyngor yn cynnal adolygiad o addysg cyfrwng Cymraeg gan edrych ar y posibilrwydd o sefydlu o leiaf un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

Bydd y Cabinet yn trafod y cynlluniau ar gyfer gogledd y sir ym mis Medi.

Dywedodd Aelod Portffolio’r Cabinet â chyfrifoldeb am Ysgolion, y Cynghorydd Arwel Jones: “Mae ein hysgolion uwchradd wedi bod yn wych yn y gorffennol, ac fe gawsant ganlyniadau ardderchog. Ond mae cwymp yn nifer y disgyblion ar y gofrestr a phwysau ariannol wedi creu sefyllfa nad oes mynd i’r afael â hi heb newidiadau radical.”

Trawsnewid addysg

“Mae ein nod yn un syml – sef trawsnewid addysg ym Mhowys i sicrhau bod ein holl ddysgwyr ifanc yn cael y cyfle gorau bosibl o gyrraedd eu potensial llawn. Fydd cyflawni’r uchelgais yma ddim yn hawdd, a bydd angen cymorth a dealltwriaeth ein cymunedau.

“Mae a wnelo hyn â mwy nag arian. Mae’n ymwneud â chodi safonau, ond allwn ni ddim gwneud hyn heb ddefnyddio adnoddau’n effeithiol. Heb newid yn y dyfodol, fyddwn ni ddim yn gallu fforddio’r athrawon gorau, na darparu’r amgylchedd dysgu gorau na’r canlyniadau gorau.”

Darllediad byw

Bydd Cyngor Sir Powys yn gweddarlledu cyfarfod o’r cabinet prynhawn ma yn fyw o Neuadd y Sir am 1.00yp.

Meddai’r Cynghorydd Barry Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Mae sawl eitem bwysig ar agenda’r cabinet ac rwy’n gwybod bod pobl yn awyddus i glywed beth sydd ar y gweill i’n hysgolion uwchradd.

“Am y rheswm hynny, rydym wedi penderfynu gweddarlledu’r cyfarfod pwysig hwn a gobeithio y bydd pobl yn dilyn y cyfarfod, un ai yn ystod neu ar ôl y cyfarfod.”

Mae modd gwylio’r gweddarllediad o 1.00 pm trwy fynd i www.powys.public-i.tv